Strategaeth Cynhwysiant Ariannol

 

Rhagarweiniad

 

1.            Pwrpas y papur hwn yw rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol mewn perthynas â diweddaru Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016.

 

Cynhwysiant Ariannol a Gallu Ariannol yng Nghymru

 

2.            Mae ymchwil ddiweddar gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol[1] yn awgrymu nad yw pedwar o bob deg oedolyn yng Nghymru yn rheoli eu harian gystal ag y gallent o ddydd i ddydd. Mae bron i un o bob pump yng Nghymru mewn dyled gormodol, ac eto dim ond un o bob pump o blith y rheini sy’n mynd ati i gael cyngor ariannol neu gyngor dyledion. Mae natur dyledion wedi newid hefyd. Yn lle mynd i ddyled yn sgil gwario ar bethau nad ydynt yn hanfodol, bellach mae pobl yn mynd i ddyled er mwyn talu rhent, morgais, costau treth gyngor a biliau cartref hanfodol. Dim ond chwarter y boblogaeth sydd o oedran gweithio  yng Nghymru sydd â digon o gynilion i allu ymdopi â phroblem incwm am dri mis neu fwy.

 

Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Ddrafft

 

3.            Ymrwymodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (y Gweinidog) i ddiweddaru Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2009 yn sgil newidiadau yn yr economi, diwygio gweithdrefnau lles, pryderon ynghylch credyd cost uchel a gallu darparwyr gwasanaethau i helpu pobl tra bo’u hadnoddau eu hunain yn crebachu.

 

4.            Sefydlwyd grŵp cynghori a gymeradwywyd gan y Gweinidog – y Grŵp Datblygu Cynhwysiant Ariannol – i gyfrannu at y gwaith o gyd-ddatblygu Strategaeth Cynhwysiant Ariannol newydd. Ar ôl i’r Gweinidog gymeradwyo’r peth, mae unigolyn a enwebwyd gan Bethan Jenkins AC wedi’i dderbyn yn aelod.

 

5.            Mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft yn strategaeth gyffredinol ar gyfer pawb yng Nghymru, er mai’r rheini sydd wedi’u hallgáu’n ariannol ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl o gael eu hallgáu’n ariannol, fydd yn elwa fwyaf. Mae yna dair prif thema yn ogystal â themâu cyffredinol cynhwysiant digidol a sicrhau’r incwm mwyaf / lleihau gwariant. Dyma’r prif themâu:

·         Mynediad i wasanaethau ariannol a chredyd fforddiadwy;

·         Mynediad i wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion;

·         Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol.

 

6.            Yn y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer Cymru lle:

·         bydd pob oedolyn a phlentyn yn derbyn yr addysg ariannol sydd ei hangen arno, gan ddechrau yn yr ysgol gynradd a pharhau drwy gydol eu bywyd gwaith tan iddynt ymddeol;

·         bydd gwybodaeth a chyngor gwrthrychol a dealladwy ar gael i bob oedolyn ar gredyd, dyledion, cynilo a phensiynau, ar yr adeg orau a thrwy’r cyfrwng gorau iddo ef;

·         bydd cyfrif cyfredol personol ar gael i bob oedolyn a bydd yn gallu gwneud defnydd llawn ohono;

·         bydd credyd fforddiadwy a phriodol ar gael i bob oedolyn gan fenthycwyr cyfrifol;

·         caiff pob oedolyn ei annog i gynilo, hyd yn oed symiau bach neu’n achlysurol iawn, er mwyn dangos pwysigrwydd diwylliant o gynilo, datblygu’r gallu i wrthsefyll siociau ariannol, ac fel adnodd ychwanegol erbyn y bydd pobl yn ymddeol;

·         bydd yswiriant ar gael i bob oedolyn sy’n addas i’w anghenion, am bris teg.

 

7.            Caiff Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ei hategu gan Gynllun Cyflawni, a fydd yn amlinellu camau mesuradwy, clir ar gyfer cyflawni ymrwymiadau’r Strategaeth, a bydd yn cynnwys cynlluniau posibl i fonitro a gwerthuso hynt y Strategaeth. Awgrymwyd llunio Adroddiad Blynyddol. Caiff aelodaeth a chylch gorchwyl y Grŵp Datblygu Cynhwysiant Ariannol eu hadolygu er mwyn amlinellu ei rôl wrth edrych i’r dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â datblygu a gweithredu’r Cynllun Cyflawni.

 

8.            Daeth 51 ymateb i law yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus naw wythnos ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft (2 Tachwedd 2015 i 4 Ionawr 2016). Ynghyd â’r ymgynghoriad ffurfiol, trefnwyd sesiynau ymgysylltu â’r rhan fwyaf o’r prif randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, darparwyr cyngor, Undebau Credyd a darparwyr credyd. Yn benodol, trefnwyd:

·         Tri Fforwm Gallu Ariannol

·         Digwyddiad Rhanbarthol Trechu Tlodi

·         Gweithgor Mathemateg Llywodraeth Cymru

·         Grŵp Cynghori Allanol Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru

·         Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant

 

9.            Nid oedd dadansoddiad llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael pan ddrafftiwyd y papur tystiolaeth hwn. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion i weledigaeth a phrif themâu’r Strategaeth yn cyd-fynd â’r cynigion. Yn gyffredinol, roedd rhwng 80 a 90 y cant yn cytuno â’r weledigaeth neu’r prif themâu, roedd 4 y cant (2 ymateb) ar y mwyaf yn anghytuno, ac o ran y lleill naill ai ni wnaethant ateb cwestiynau penodol neu rhoesant sylwadau heb gytuno nac anghytuno’n ffurfiol.

 

10.         Caiff cynigion i ddiwygio’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft, yn sgil yr ymatebion i’r ymgynghoriad, eu hystyried gan y Grŵp Datblygu Cynhwysiant Ariannol ym mis Chwefror.

 

 

Cydweithredu â / Dylanwadu ar Eraill y Tu Allan i Lywodraeth Cymru

 

11.         Mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cydweithio â sefydliadau partner – yng Nghymru ac ar lefel y DU – i sicrhau y gweithredir ar y cyd wrth fynd i’r afael â phroblem allgáu ariannol. Croesawyd hyn mewn digwyddiadau ymgynghori a gwnaed nifer o sylwadau ac awgrymiadau ychwanegol yn ystod yr ymgynghoriad. Dim ond dau o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno â’r cynigion i gydweithio.

 

12.         Yn dilyn adroddiad Pwyllgor Cynhwysiant Ariannol y DU 2015[2], sefydlwyd Bwrdd Gallu Ariannol y DU a lansiwyd Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU[3] ym mis Hydref 2015. Caiff Cymru ei chynrychioli ar Fwrdd Gallu Ariannol y DU a byddwn yn defnyddio ein lle ar y bwrdd i ddylanwadu ar lefel y DU mewn perthynas â’r ymrwymiadau yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru.

 

13.         Ym mis Tachwedd 2015, ynghyd â llunio Strategaeth Gallu Ariannol y DU, aethpwyd ati i gyhoeddi Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer Cymru[4]. Mae’r diffiniad o allu ariannol a ddefnyddir yn y strategaeth yn ehangach na’r un a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, gan ei fod yn cynnwys mynediad i wasanaethau a chynnyrch ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn allweddol ynddynt eu hunain i sicrhau cynhwysiant ariannol. Yn dilyn trafodaethau gyda’r Grŵp Datblygu Cynhwysiant Ariannol, cytunwyd – lle roedd yn briodol – i integreiddio elfennau o’r Strategaeth Gallu Ariannol fel rhan o brif themâu Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru.

 

14.         Yn 2016, caiff strategaethau eu cyhoeddi gan grwpiau allanol a fydd yn ategu cynhwysiant ariannol yng Nghymru. Bydd yn bwysig bod Cynllun Cyflawni’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn rhoi ystyriaeth i strategaethau o’r fath, gan gynnwys:

·         Strategaeth Gwasanaethau Cynghori, y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol

·         Strategaeth Undebau Credyd, yr undebau credyd yng Nghymru

 

Cydlynu’n Effeithiol â Chynlluniau Gweithredu Trechu Tlodi / Tlodi Plant, Cynllun Cydraddoldeb Strategol, Cynhwysiant Digidol a Strategaethau Eraill y Llywodraeth

 

15.         Mae yna gysylltiadau clir rhwng y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, er enghraifft Trechu Tlodi a diweddaru Fframwaith Strategol a Chynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol. 

 

16.         Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r uchelgais o ddiddymu tlodi plant erbyn 2020, ac mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni pumed amcan y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig – “helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i gynyddu incwm eu haelwydydd trwy gyngor ynghylch dyledion a chyngor ariannol, camau gweithredu i fynd i’r afael â’r “premiwm tlodi” (lle mae aelwydydd yn talu mwy am nwyddau a gwasanaethau) a chamau gweithredu i liniaru effeithiau’r diwygiadau lles”.

 

17.         Mae helpu rhieni i gynyddu eu hincwm yn rhan allweddol o drechu tlodi plant. Gall mentrau cynhwysiant ariannol a digidol helpu i liniaru ar effaith tlodi, drwy gefnogi teuluoedd a rhoi’r sgiliau a’r adnoddau iddynt allu gwneud i’w hincwm fynd ymhellach. Mae cymryd camau i fynd i’r afael â’r premiwm tlodi yn arbennig o bwysig, gan fod cael eich allgáu o wasanaethau prif ffrwd yn aml yn golygu bod teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn talu mwy am wasanaethau sylfaenol fel tanwydd, bwyd, tai a chredyd. Mae mynediad i wasanaethau ariannol fforddiadwy a chefnogi gwasanaethau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â dyled, diwygio lles, mynediad i fudd-daliadau, tai, rheoli arian, cynyddu incwm a chwestiwn gwahaniaethu yn hollbwysig. Mae cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i gynyddu eu gallu ariannol hefyd yn hanfodol.

 

18.         Mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at amcan cyntaf Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2012-2016, sy’n ymwneud â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, ac efallai ei bod yn cyfrannu’n anuniongyrchol at amcanion eraill. Mae trafodaethau ar amcanion drafft posibl Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 yn awgrymu cysylltiad agosach, er enghraifft amcan gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, ac amcan newydd i leihau tlodi a’i effaith.

 

19.         Caiff y cysylltiadau rhwng y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft a blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru eu gwyntyllu yn adran “Y sefyllfa ar hyn o bryd” y Strategaeth ddrafft. Ymhlith y strategaethau a’r rhaglenni perthnasol mae Cymunedau yn Gyntaf; Dechrau’n Deg; Teuluoedd yn Gyntaf; Cymunedau am Waith; Esgyn; Cartrefi Clyd (gan gynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed); Cefnogi Pobl; Dyfodol Llwyddiannus a’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg. Caiff gweithgareddau i hyrwyddo cynhwysiant ariannol hefyd eu datblygu wrth weithredu ar sail y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), Deddf Tai (Cymru) 2014, a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Addysg Ariannol a’r Cwricwlwm, Arholiadau, Arolygiadau a Chymorth i Athrawon

 

20.         Ers 2008, mae addysg ariannol wedi bod yn rhan o gwricwlwm ysgolion yng Nghymru drwy raglen astudio Mathemateg, ac yn rhan hefyd o fframweithiau anstatudol Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Gyrfaoedd a Byd Gwaith.

 

21.         Mae rheoli arian yn elfen allweddol o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, sydd wedi bod yn un o ofynion statudol y cwricwlwm ers Medi 2013. Mae’r Fframwaith yn cryfhau trefniadau presennol y cwricwlwm ac yn helpu pob athro i wneud llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r cwricwlwm drwyddi draw.

 

22.         Ym mis Medi, cyflwynwyd rhaglen astudio statudol newydd ar gyfer Mathemateg ar draws lleoliadau cynradd ac uwchradd, ac roedd elfennau llythrennedd a rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn rhan ohoni. Mae arian a rheoli arian hefyd yn nodweddion sy’n ymddangos yn y profion rhifedd cenedlaethol.

 

23.         Mae’r rhaglen astudio fathemateg newydd hefyd yn adlewyrchu’r gofynion o ran cynnwys y cymwysterau TGAU diwygiedig. Mae addysg ariannol a rheoli arian yn rhai o egwyddorion pwnc TGAU diwygiedig Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd, y dechreuwyd eu haddysgu gyntaf ym Medi 2015. Rydym yn disgwyl y caiff y rhan fwyaf o ddysgwyr eu cofrestru ar gyfer y ddau TGAU Mathemateg newydd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4; mae ein mesurau perfformiad ar gyfer CA4 wedi’u cynllunio i hybu hyn. Fodd bynnag, yn achos rhai dysgwyr dim ond y TGAU Mathemateg-Rhifedd fydd yn briodol ar eu cyfer. 

 

24.         Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o adnoddau ar wefan Dysgu Cymru. Maent wedi’u bwriadu ar gyfer athrawon ac awdurdodau lleol/consortia er mwyn gwella eu gwybodaeth ac fel y gallant ganfod cyfleoedd i ddarparu addysg ariannol yn eu dosbarthiadau. Hefyd, a thrwy gyllid Llywodraeth Cymru i Gonsortia i’w helpu i gyflwyno’r rhaglenni astudio newydd a’r cymwysterau TGAU Mathemateg, mae’r Consortia yn cydweithio ag ysgolion i gyd-ddatblygu adnoddau a rhannu arferion, gan gynnwys mewn perthynas ag addysg ariannol.  

 

25.         Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi ymrwymo i roi’r dasg i Estyn o gynnal adolygiad thematig ar yr addysgu a’r dysgu sy’n digwydd yng Nghymru mewn perthynas ag addysg ariannol. Mae hyn yn debygol o ddigwydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Caiff addysg ariannol ei hystyried fel rhan o’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn ehangach, a’r bwriad yw y bydd tasg Estyn yn helpu gyda’r broses hon.

 

26.          Bydd yr adolygiad thematig yn rhoi arweiniad clir i Lywodraeth Cymru ac argymhellion ar feysydd i’w gwella. Bydd hefyd yn nodi meysydd lle mae yna arferion da y gall Llywodraeth Cymru, Consortia rhanbarthol a rhanddeiliaid ehangach weithredu arnynt. Byddai adroddiad Estyn hefyd yn rhoi sicrwydd i’r Cynulliad Cenedlaethol bod addysg ariannol yn dal yn rhan bwysig o’r cwricwlwm, a’i bod yn cael digon o gefnogaeth mewn ysgolion. Gallai canlyniadau’r adroddiad hefyd ddylanwadu ar ddatblygiad y Cwricwlwm am Oes newydddrwy Faes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd.

 

Cyllidebau

 

27.         Daw cyllid i gefnogi ymrwymiadau a blaenoriaethau cynhwysiant ariannol o gyllidebau ar draws nifer o bortffolios gan y bydd rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru yn helpu i weithredu’r camau a nodir yn y Cynllun Cyflawni mewn meysydd fel cynhwysiant digidol, tlodi bwyd a thanwydd, cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed a chymorth tai.

 

28.         Er y bydd yna gyllidebau amrywiol yn cefnogi’r agenda hon, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid mawr i feysydd penodol. Er enghraifft, ym Mawrth 2014, ymrwymwyd £1.9miliwn hyd fis Mawrth 2017, ar gyfer mudiad yr Undebau Credyd er mwyn helpu unigolion sydd wediu hallgáu’n ariannol. Erbyn Medi 2015 (hanner ffordd drwy’r prosiect), mae’r cyllid wedi galluogi’r pymtheg Undeb Credyd sy’n rhan o’r prosiect i ddarparu dros 14,600 o fenthyciadau, sef £11.3m. O dan y gwasanaethau cynghori, rydym wedi cefnogi Cynllun Cyngor Gwell: Bywydau Gwell (BABL) sy’n cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth (£2.2m y flwyddyn). Mae’n rhoi cyngor ar y budd-daliadau sydd ar gael i bobl. Yn ystod hanner cyntaf 2015/16 mae’r cynllun wedi helpu mwy na 9000 o bobl a gafodd fwy na £10m o fudd-daliadau. Yn ogystal â Cyngor Gwell: Bywydau Gwell, rydym wedi darparu cyllid drwy ein Grant Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen (£2 miliwn yn 2015/16) sy’n helpu gwasanaethau cynghori i roi cymorth gyda materion budd-daliadau lles; dyledion a thai. Yn ystod hanner cyntaf 2015/16, ymatebwyd i fwy na 26,500 o geisiadau, gan sicrhau bron i £5 miliwn yn incwm pobl. Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol sy’n ymateb i’r galw wedi parhau i helpu’r rheini sydd yn yr angen mwyaf. Mae’r Gronfa hon yn rhoi cymorth brys i rhwng 1,500 a 2,000 o bobl bob mis. Roedd nifer y dyraniadau o’r Gronfa yn ystod y ddwy flynedd gyntaf (13/14 a 14/15) yn dod i bron i 57,500, sef £14.8m. Yn ystod trydedd blwyddyn y cynllun, hyd yma mae mwy na £4.2 miliwn wedi’i ddyfarnu.  

 

29.         Mae’r cyllid i ysgolion ar gyfer addysg ariannol o fewn y cwricwlwm yn rhan o’r adnodd a ddarperir ar gyfer awdurdodau lleol drwy’r Grant Cynnal Refeniw. I gefnogi’r newidiadau yn y cwricwlwm ac mewn cymwysterau dros y 2 flynedd ariannol ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £3.74 miliwn i gonsortia addysg er mwyn helpu ysgolion i wneud newidiadau i gwricwlwm a chymwysterau Cymraeg, Saesneg a Mathemateg (gan gynnwys addysg ariannol). Yn ogystal, darparwyd dros £95 mil i gyhoeddi amrywiaeth o Ddeunyddiau Asesu Addysgu dwyieithog i helpu’r broses o addysgu a dysgu’r cymwysterau TGAU newydd mewn Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd. Cost y gwaith yw £95,975. 

 

Casgliad

 

30.         Mae’r drafodaeth a gafwyd gyda’r prif randdeiliaid a’r dadansoddiad manwl o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddrafft wedi dangos ymrwymiad sefydliadau ledled Cymru i hyrwyddo cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â phroblem allgáu ariannol – yn nhermau’r hyn sy’n ei achosi a’i effeithiau. 

 

31.         Ym Mawrth 2016, caiff y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ddiwygiedig ei chyhoeddi a bydd yn rhoi ystyriaeth i’r safbwyntiau a fynegwyd gan y rheini a ddaeth i’r digwyddiadau ymgynghori ac a ymatebodd yn ffurfiol. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Cyflawni yn nes ymlaen yn 2016. Bydd hwnnw’n cadarnhau sut bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn cydweithio i weithredu’r ymrwymiadau a hyrwyddo cynhwysiant ariannol a gallu ariannol er budd bawb yng Nghymru.

 



[1] Money Advice Service – Financial Capability in Wales 2015

[2] Y Comisiwn Cynhwysiant Ariannol  http://www.financialinclusioncommission.org.uk/report

[3] Stategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU http://www.fincap.org.uk/uk_strategy

[4] Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer Cymru http://www.fincap.org.uk/cymru